Marchwiail

Marchwiail
Mathpentref, cymuned Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirWrecsam Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.0231°N 2.96°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000899 Edit this on Wikidata
Cod OSSJ356476 Edit this on Wikidata
AS/auAndrew Ranger (Llafur)
Map

Pentref a chymuned ym mwrdeistref sirol Wrecsam, Cymru, yw Marchwiail (Saesneg: Marchwiel). Saif y pentref tua 2.5 filltir i'r de-ddwyrain o dref Wrecsam ei hun.

Gorwedd y pentref ym mhlwyf Marchwiail ym Maelor Gymraeg, ym Maelor, y rhan o ogledd-ddwyrain Cymru sy'n ymwthio i mewn i Loegr, ar yr A525 hanner ffordd rhwng Wrecsam a Bangor Is Coed i'r de-ddwyrain.

Ystyr marchwiail yw "brigau mawr, gwiail praff" neu "goed ifainc" (unigol: marchwialen).[1] Efallai bod yr ardal yn nodwedig o goediog ar un adeg.

Cysegrir yr eglwys i'r Santes Marchell ac i Sant Deiniol. Yn ôl yr hynafiaethydd Edward Lhuyd, i Ddeiniol y cyflwynwyd yr eglwys ar y dechrau. Cafodd adeilad yr eglwys ei ailgodi o'r newydd bron yn y 18g. Mae'n adnabyddus am ffenestr wydr-liw a adnabyddir fel "ffenestr Yorke".[2]

Roedd gan y pentref orsaf ar yr hen reilffordd Wrecsam ac Ellesmere. Caewyd yr orsaf ym 1962, pan gaewyd y reilffordd i deithwyr.[3]

  1.  marchwialen. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 21 Ionawr 2021.
  2. Frank Price Jones, Crwydro Dwyrain Dinbych (Cyfres Crwydro Cymru, 1961), t. 118.
  3. "Wrexham and Ellesmere Railway". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2022-05-29. Cyrchwyd 2022-05-19.

© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search